Caergybi
Perchennog
Stena Line Ports LtdCyfeiriad
Kevin Riley
Harbwrfeistr
Stena House,
Station Approach,
Caergybi,
LL651DQ
E-bost
JavaScript is required to reveal this message.Ffôn
01407 606878Caergybi
Porthladd Caergybi yw'r ail o blith porthladoedd Ro/Ro prysuraf y Deyrnas Unedig ac mae wedi'i leoli'n strategol ar rwydwaith ffyrdd Deg -T - Euroroute E22 sy'n cysylltu'r Deyrnas Unedig, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Sweden, Latfia a Rwsia, o Borthladd Dulyn a mewndir Iwerddon.
Bydd fferïau yn hwylio i Ddinas Dulyn yn Iwerddon a leolir 58 milltir i'r Gorllewin o Borthladd Caergybi, a dyma'r brif ddolen gyswllt ar gyfer cludiant ffordd o ganolbarth a Gogledd Lloegr a Chymru i Iwerddon.
Mae arwynebedd y Porthladd yn oddeutu 3, 500 neu 14 cilomedr sgwâr. Mae'r Porthladd yn elwa o leoliad canolog ym Môr Iwerddon ac mae'n cynnig nifer o angorfeydd oddeutu 1 filltir o'r môr mawr. Nid yw'r Porthladd wedi'i gyfyngu gan y llanw ac mae'n agored 24 awr y dydd ar gyfer llongau dyfnfor ac arfordirol.
Mae Porthladd Caergybi mewn lleoliad da i dderbyn llwythi yn uniongyrchol o leoliadau byd-eang, yn benodol o Ogledd-orllewin Ewrop, trawslwytho ac Arc yr Iwerydd. Mae gan y Porthladd brofiad o drin a thrafod amrywiaeth o fewnforion, yn cynnwys Ro/Ro, cargo cyffedinol, olew nwy, metelau, petroliwm, golosg ac agregau.
Mae porthladd Caergybi sydd wedi'i leoli yn Ynys Môn, Gogledd Cymru, yn cael ei amddiffyn yn dda rhag prifwyntedd de-orllewinol oherwydd ei leoliad i'r dwyrain o Fynydd Tŵr, a'i forglawdd 2.4 cilomedr hanesyddol sy'n cysgodi'r porthladd a'i angorfeydd.

Amrediad llanw
MHWS: 5.6 MLWS: 0.7 MHWN: 4.4 MLWN: 2.0
Dimensiynau'r llongau mwyaf sydd wedi defnyddio'r porthladd
Lled - n/aDyfnder - 14.10m
Cyfanswm Hyd - 315.00m
Perthynas rhwng Datwm Siart a Datwm Ordnans
3.00mLlwyth Trymaf
200 tonnesCyfanswm Hyd Glan y Cei
530.00mGwasanaethau'r Porthladd
Mae'r cyfleusterau yn cynnwys: llwytho a dadlwytho, creini, tanwydd byncer (dŵr a Thanwydd DO); llogi aleau; llogi Cychod Peilot; llogi cychod tynnu; llogi Fender; Wagen Fforch Godi. Gwasanaethau eraill ar gais.
Cynlluniau Datblygu i'r Dyfodol
Mae gwaith trwyddedu a chydsynio ar gyfer adfer tir yn mynd rhagddo yn 2017. Bydd 94,000 metr sgwâr ychwanegol o dir ar gael ynghyd â 600 metr ychwanegol o wal cei newydd â dyfnderau ochr yn ochr 10 metr yn CD.
Lleoliad
Caergybi cyfleusterau glan y cei
Cyfryngau Caergybi
Chart Datum
Chart Datum (CD) is a level set low enough to ensure that the tide rarely falls below it. The UK usually determines this as being approximately the level of Lowest Astronomical Tide. In effect, this is the minimum depth that can be achieved by a quayside or port entrance channel.
Datwm Siart
Mae Datwm Siart (CD) yn lefel a osodir yn ddigon isel i sicrhau mai anaml iawn fydd y llanw yn disgyn oddi tano. Mae'r DU yn diffinio hyn fel arfer fel tua lefel y Llanw Seryddol Isaf. Mewn gwirionedd, dyma'r dyfnder lleiaf y gellir ei gyflawni gan lan y cei neu sianel mynedfa porthladd.
Vessel Dimensions
Length overall (LOA) means the maximum length of a vessel's hull when measured parallel to the waterline.
A ship’s beam refers to its width at the widest point, when measured at the ship's nominal waterline.
The draft of a ship's hull is the vertical distance between the waterline and the bottom of the hull (keel), which includes the thickness of the hull. The draft of a ship or boat signifies the minimum depth of water it can safely navigate.
Dimensiynau Llongau
Mae cyfanswm hyd (LOA) yn golygu uchafswm hyd corff llong pan fesurir hynny yn gyfochrog â llinell y dŵr.
Mae lled llong yn cyfeirio at ei lled yn y rhan lletaf, pan fesurir hynny wrth linell dŵr nominal y llong.
Dyfnder corff llong yw'r pellter fertigol rhwng llinell y dŵr a gwaelod corff y llong (cêl), sy'n cynnwys trwch corff y llong. Mae dyfnder cwch neu long yn nodi isafswm dyfnder y dŵr y gall ei fordwyo'n ddiogel.